Teithiau tacsi: ar gyfer teithiau lleol, teithiau i orsafoedd trên a meysydd awyr, ac i fannau cychwyn teithiau cerdded a beicio, gan gynnwys trosglwyddo bagiau
P & C Taxis - 01686 412047 / 07752 345830 / 07752 345831
Mae tref Llanidloes oddi ar briffordd yr A470, rhyw 30 milltir o’r ffin gyda Lloegr. O Birmingham a Chanoldiroedd Lloegr, dilynwch yr M54 trwy Telford, yna’r A458 a’r A483 trwy’r Amwythig, Y Trallwng a’r Drenewydd. O’r de, ceir golygfeydd bendigedig o’r A470 yr holl ffordd o Gaerdydd.
Mae digonedd o wasanaethau bys i ac o’r arfordir yn Aberystwyth, i’r Drenewydd, Y Trallwng a’r Amwythig, ac i Raeadr Gwy a Llandrindod. Mae bws National Express hefyd yn rhedeg trwy Lanidloes os am deithio i Birmingham a gweddill rhwydwaith National Express i gyrraedd gweddill Prydain ac Ewrop.
Mae bws National Express yn mynd bob dydd o Lanidloes i Birmingham. Os am archebu tocynnau, ewch wefan National Express
Gadael Llanidloes: 09.10
Cyrraedd Birmingham: 12.10
Gadael Birmingham: 16.10
Cyrraedd Llanidloes: 19.00
Teithio i ac o Lanidloes ar y trên
Yng Nghaersws mae’r orsaf drenau agosaf i Lanidloes - pellter o 6 milltir. Gallwch fynd i Lanidloes ar fws neu mewn tacsi. Fel arfer mae’n cymryd rhyw 3.5 - 4 awr i fynd o Gaersws i Lundain. Os ydych chi'n teithio ar y penwythnos, ffoniwch linell ffôn National Train ar 08457 484950 (+44 8457 484950 tu allan i’r DU) i gael gwybodaeth am unrhyw oedi o ganlyniad i waith peirianneg. Mae’n cymryd mwy o amser i deithio ar ddydd Sul, a does dim bysiau’n rhedeg - felly nid yw hyn yn syniad da.
> National Rail UK am amserlenni trenau yn y DU. Yr orsaf drenau agosach i Lanidloes yw CAERSWS