Llefydd i fwyta Mae Llanidloes yn gallu cynnig llefydd bwyta at ddant pawb. Fe fydd ansawdd ac amrediad y bwyd sydd ar gael yn eich synnu – boed hynny mewn bwytai arbenigol, tafarndai, ystafelloedd te neu fwyd parod.
Llefydd i aros Gall Llanidloes gynnig ystod o lety at ddant pawb, yn amrywio o ystafelloedd mewn gwestai yng nghanol y dref i fythynnod yn y bryniau cyfagos. Mae’r llety i gyd o safon uchel, yn gystadleuol o ran pris, a byddwch yn sïwr o groeso cynnes.